The goings on in and around Bridgend

Arwyr yr Arfordir: Cyfweliad gyda Sean Warrington

Yn y cyntaf o'n cyfres newydd o gyfweliadau â Chymeriadau'r Glannau yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, fe fûm yn siarad â Sean Warrington, Harbwrfeistr Porthcawl, am ei swydd a sut mae wedi gweld yr arfordir yn datblygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Sean Warrington


Beth yw eich swydd a sut gwnaethoch chi ddechrau arni?

Fi yw Harbwrfeistr Porthcawl, sy'n golygu mai fi sy'n gyfrifol am reoli gweithrediadau harbwr Porthcawl o ddydd i ddydd, yn ogystal â rheoli darpariaethau achub bywyd a sicrhau bod ein harbwr a'n traethau'n cydymffurfio a'r amodau Baner Las. Mae gennym ni ddau draeth Baner Las yn sir Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd - sef Bae Rest a Bae Treco.

Dechreuais yn fy swydd yn 2013, sy'n golygu fy mod wedi bod yn gweithio yma ers bron i bum mlynedd. Rwy'n dod o Orllewin Cymru'n wreiddiol. Roedd fy nhad yn rhedeg marina a dechreuais weithio yno yn ystod yr haf pan oeddwn yn 16 oed. Symudais i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol ond symudais yn ôl wedyn i ymgymryd â swydd Meistr yr Hafan mewn marina. Es yn ôl i Gaerdydd wedyn a dechrau gweithio fel Meistr Angori ym Marina Penarth, lle bûm yn gweithio am tua dwy neu dair blynedd cyn symud i fy swydd bresennol yn sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Disgrifiwch eich diwrnod gwaith arferol.
Mae'n dibynnu ar y tymhorau a dweud y gwir. Yn ystod y tymhorau cynhesach, rwy'n treulio llawer o amser yn y marina yn gwneud yn siŵr bod yr holl gychod yn ddiogel, a bod y safle'n lân ac yn daclus i denantiaid ac ymwelwyr yr Harbwr.  

Byddaf hefyd yn helpu i oruchwylio darpariaeth y swyddogion achub bywyd ledled traethau sir Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â'r Swyddog Diogelwch Dŵr a Thraethau mae gennym ni fynediad at dîm o dros 40 o swyddogion achub bywyd sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein traethau'n ddiogel. Mae Bae Rest yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg ymwelwyr, sydd ddim yn fy synnu gan ystyried mai hwn yw'r traeth syrffio agosaf i Gaerdydd, Llundain a nifer o drefi a dinasoedd rhwng y ddwy brifddinas. Mae sir Pen-y-bont ar Ogwr yn ffodus bod ganddi gymaint o adnoddau naturiol ar garreg y drws ac mae'n hollbwysig bod teuluoedd a phawb sy'n defnyddio'r traethau'n teimlo'n ddiogel wrth eu defnyddio.
 
Ydych chi wedi gweld yr arfordir lleol yn datblygu?
Mae'r arfordir wedi datblygu'n aruthrol mewn pum mlynedd. Pan ddechreuais yn fy swydd yn 2013, fi oedd yn gyfrifol am oruchwylio cam olaf y gwaith o drawsnewid yr harbwr yn farina bach. Dim ond dwy angorfa droi gyda lle i rhwng 20 a 25 o gychod oedd yno'n wreiddiol. Roedd troi'r harbwr yn farina bach yn cynnwys gosod system ysgraffau sy'n arnofio er mwyn gallu cynnwys hyd ar 70 o gychod. Cyn 2013, nid oedd gan y cychod a oedd yn ymweld â'r ardal unman i angori'n ddiogel. Mae'r marina bellach yn croesawu ymwelwyr o ogledd Dyfnaint, Bryste, Sir Benfro a Chaerdydd sy'n ymweld â'r ardal yn rheolaidd i fynd am bryd o fwyd neu am lymaid i'r tafarnau lleol, i ymweld â'r traethau ac i fynd am dro ar hyd llwybr yr arfordir. Mae llawer ohonynt yn dychwelyd bob blwyddyn. 
 
Mae dyfodiad y marina wedi sbarduno datblygiadau yn yr ardal, gan gynnwys Adeilad Jennings a gafodd ei ddadorchuddio'n ddiweddar. Mae ardal yr harbwr yn cynnig mwy i'r gymuned erbyn hyn a does dim amheuaeth bod nifer y bobl sy'n dod i'r ardal wedi cynyddu o ganlyniad i hynny. Mae'n boblogaidd iawn ymysg teuluoedd a'r rheini sy'n hoffi mynd am dro hamddenol gyda'r nos. 
 
Mae llawer o weithgarwch cyffrous ym Mhorthcawl ar hyn o bryd - mae datblygiadau newydd ar y gweill gan Gwmni Buddiannau Cymunedol Harbwr Porthcawl ac mae caban yr harbwr yn cael ei adnewyddu. Mae cynlluniau i gael Canolfan Chwaraeon Dŵr ym Mae Rest hefyd, a fydd yn cynnwys ystafelloedd gwisgo a man dysgu ar gyfer ysgolion syrffio lleol. 
 
Beth yw eich hoff weithgareddau arfordirol?
Mae llefydd gwych i fynd am dro ar hyd yr arfordir yn yr ardal. Bydda i'n hoffi parcio wrth ymyl Gwarchodfa Natur Cynffig a cherdded draw i Fae Rest drwy Bwynt y Sger ar ochr ddeheuol Traeth Cynffig. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i mi fynd i dafarn hanesyddol y Prince of Wales yng Nghynffig. Rwyf hefyd yn hoffi'r llwybr ar hyd y twyni o Drenewydd yn Notais i geg Afon Ogwr. 

 

Post a comment